Canolfan Mary Jones ar Daith
DYDD IAU 9 GORFFENNAF
Jambori Ysgolion gyda Martyn Geraint
Ysgol Godre’r Berwyn
10.00am a 1.30pm / 10.00am and 1.30pm
Mae Martyn Geraint wedi bod yn cynnal Jamboris ledled Cymru ers 1992 ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â’r Bala i gofio taith ryfeddol Mary Jones.
Bydd y Jambori hefyd yn mynd â ni ar daith arbennig – ond y tro hwn byddwn yn teithio o amgylch y byd! Byddwn yn gwneud ffrindiau newydd, yn dysgu dawnsfeydd ac yn darganfod ffeithiau diddorol am wahanol wledydd, gan gael llawer iawn o hwyl ar yr un pryd..
DYDD GWENER 10 GORFFENNAF
Mwy nag Aur
Greater Than Gold (Cynhyrchiad Cymraeg / Welsh-language Musical)
Eglwys Crist, Y Bala / Christ Church, Bala
7.00pm
Tocynnau ar gael ymlaen llaw o Ganolfan Mary Jones neu wrth y drws.
Yn dilyn llwyddiant ein perfformiad o Greater Than Gold, rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r fersiwn Gymraeg, Mwy nag Aur. Wedi’i seilio ar y gerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd gan Roger Jones o Christian Music Ministries yn 1983, caiff y cynhyrchiad hwn ei berfformio yn Gymraeg – mamiaith Mary Jones.
Wedi’i berfformio gan grŵp o wirfoddolwyr lleol, mae’r sioe gerdd yn fwy nag ailadrodd hanes Mary Jones a’i Beibl. Mae’n gyfle i fyfyrio ar bwysigrwydd y Beibl ac ar yr effaith a’r etifeddiaeth barhaol a adawodd Mary ar genedlaethau o Gristnogion yng Nghymru a thu hwnt.
DYDD SADWRN 11 GORFFENNAF
Dathliad yr Haf
Canolfan Mary Jones
10.00am – 4.00pm
Mynediad am Ddim!
Ymunwch â ni am ddiwrnod hwyliog i’r teulu cyfan gyda mynediad AM DDIM. Bydd y diwrnod yn cynnwys perfformiadau gan Mewn Cymeriad, gweithgareddau crefft, a llawer mwy.
