Gwybodaeth ddefnyddiol am Caffi Pererin

Ymunwch â’r tîm

Rydym yn chwilio am berson sydd â dawn ar gyfer lletygarwch a sgiliau rhyngbersonol ardderchog. Gan weithio fel rhan o dîm, byddwch yn cynorthwyo rhedeg Canolfan Pererin Mary Jones o ddydd i ddydd. O baratoi a gweini bwyd ffres yn y caffi, i ysbrydoli ymwelwyr gyda stori Mary Jones yn y ganolfan ymwelwyr, byddwch yn rhoi profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf i'r ymwelwyr.

Mwy o wybodaeth
A silver coffee machine

 

Mae’r caffi yn ofod cynnes a chroesawgar sy’n agored i bawb – gallwch ei fwynhau heb ymweld â’r ganolfan.

Cysylltwch â ni ar gyfer ymholiadau i archebu lle ar gyfer grŵp.

Oriau agor

Mae ein caffi ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Dydd Mercher i Ddydd Sul, 10.00yb -4.00yp.

Archebion grŵp

Ydych chi'n chwilio am le i gynnal digwyddiad neu achlysur arbennig?

Gall y caffi baratoi bwydlen bwrpasol ar gyfer eich grŵp. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi logi ein Caffi ar gyfer eich digwyddiad? Cysylltwch â ni i drafod cynnal eich digwyddiad. Gallwn fod yn hyblyg o ran opsiynau bwydlen ac eitemau ychwanegol fel cacen, peintio wynebau a chrefftau.

Am fwy o wybodaeth: [email protected]