Beibl Mary Jones yn dychwelyd i’r Bala

I nodi dengmlwyddiant Canolfan Pererin Mary Jones yn y Bala bydd y Beibl– a gedwir fel arfer yn archifau Cymdeithas y Beibl ym Mhrifysgol Caergrawnt – yn ymweld â’r Bala ar benwythnos 21–22 Medi. 

Cynilodd Mary am chwe blynedd i brynu copi o’r Beibl yn ei mamiaith. Ar ôl cyrraedd y Bala roedd wedi’i siomi o glywed bod y Parch Thomas Charles wedi gwerthu’r holl Feiblau oedd ganddo, ond llwyddodd i drefnu llety iddi nes i gyflenwad newydd o Feiblau gyrraedd deuddydd yn ddiweddarach. 

Mae’r Beibl wedi’i gartrefu mewn lleoliadau amrywiol dros y blynyddoedd, a bydd dychwelyd i Ganolfan Pererin Mary Jones ar gyfer y penwythnos arbennig hwn yn foment ingol i’r rhai sy’n gysylltiedig â’i stori.

Bydd y penwythnos hefyd yn cynnwys gweithgareddau crefft i blant, a bydd y caffi ar agor ar gyfer cinio ysgafn a lluniaeth. Yn y Ganolfan hefyd bydd arddangosfa gan yr eglwysi a chapeli lleol yn teithio trwy fwy o hanes Cristnogol y Bala.

‘Mae’n anrhydedd i ni ddathlu’r garreg filltir hon gyda dychweliad Beibl gwreiddiol Mary Jones,’ meddai Nerys Siddall, Rheolwr y Ganolfan a Swyddog Addysg. ‘Mae’r digwyddiad hwn nid yn unig yn nodi deng mlynedd o ymroddiad ein Canolfan i rannu stori ysbrydoledig Mary Jones, ond mae hefyd yn gyfle prin i ymwelwyr gysylltu â darn o hanes sydd wedi cyffwrdd â bywydau miliynau.”

Mae Canolfan Pererin Mary Jones wedi croesawu ymwelwyr o bob rhan o’r byd ers ei hagor yn 2014, gan gynnig man myfyrio, addysg ac ysbrydoliaeth. Bydd y digwyddiad hwn yn deyrnged deilwng i ddegawd o ddathlu etifeddiaeth barhaus Mary Jones.

 

Manylion y Digwyddiad:

• Dyddiadau: 21–22 Medi, 2024

• Amser: 10.00 am–4.00 pm

• Lleoliad: Canolfan Pererin Mary Jones, Y Bala, Gwynedd LL23 7YF

Mynediad: Am ddim (croesawir rhoddion)

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Pererin Mary Jones ar [email protected], ffoniwch ni ar 01678 521 877