Byd Mary Jones yn dathlu’r deg

The Church at Mary Jones Pilgrim Centre

Ers agor, mae Byd Mary Jones wedi croesawu ymwelwyr nid yn unig o Gymru ond o bob cwr o'r byd. Mae ein tîm wedi gweithio'n galed i rannu stori ysbrydoledig Mary Jones, a sut y mae ei thaith droednoeth epig 26 milltir i brynu Beibl Cymraeg wedi arwain at sefydlu Cymdeithas y Beibl, mudiad byd-eang sy’n gweithio mewn dros 200 o wledydd ar draws y byd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi myfyrio ar y deng mlynedd cynt, ond hefyd edrych ymlaen at y dyfodol. Mae wedi dod yn amlwg drwy adborth gan ymwelwyr nad yw'r enw Byd Mary Jones yn adlewyrchiad gonest o’r ganolfan. 

Felly, rydym wedi penderfynu ail-frandio gyda hunaniaeth newydd, a phan fyddwn yn ailagor ar 23 Mawrth bydd hyn fel Canolfan Pererin Mary Jones. 

Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom hyd yma ac yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni yn y bennod newydd, gyffrous hon i'r ganolfan. 

 Edrychwn ymlaen at rannu mwy o fanylion am benwythnos y lansiad yn fuan. 

 Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys ymholiadau ac i drefnu ymweliad, cysylltwch â ni.