Gwybodaeth ddefnyddiol am Caffi Pererin
Mae’r caffi yn ofod cynnes a chroesawgar sy’n agored i bawb – gallwch ei fwynhau heb ymweld â’r ganolfan.
Cysylltwch â ni ar gyfer ymholiadau i archebu lle ar gyfer grŵp.
Bwydlen
Lawr lwythwch enghraifft o'r fwydlen.
Oriau agor
Mae ein caffi ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Dydd Mercher i Ddydd Sul, 10.00yb -4.00yp, Hefyd ar agor dros Wyliau’r Banc.
Archebion grŵp
Ydych chi'n chwilio am le i gynnal digwyddiad neu achlysur arbennig?
Gall y caffi baratoi bwydlen bwrpasol ar gyfer eich grŵp. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Swyddi
Rheolwr Caffi
Rydym yn chwilio am Reolwr Caffi gydag angerdd am arlwyo a phrofiad profedig mewn cegin fasnachol neu leoliad lletygarwch i oruchwylio pob agwedd ar weithrediadau caffi. O gynllunio'r fwydlen a chanfod cyflenwyr i baratoi eitemau bwyd a diod o ansawdd uchel, byddwch yn sicrhau bod gweithdrefnau a pholisïau EHO priodol ar waith, ac yn rheoli tîm bach i ddarparu profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf i ymwelwyr.